Y Salmau 78:38-52 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

38. Eto, bu ef yn drugarog, maddeuodd eu trosedd,ac ni ddistrywiodd hwy;dro ar ôl tro ataliodd ei ddig,a chadw ei lid rhag codi.

39. Cofiodd mai cnawd oeddent,gwynt sy'n mynd heibio heb ddychwelyd.

40. Mor aml y bu iddynt wrthryfela yn ei erbyn yn yr anialwch,a pheri gofid iddo yn y diffeithwch!

41. Dro ar ôl tro rhoesant brawf ar Dduw,a blino Sanct Israel.

42. Nid oeddent yn cofio ei rymy dydd y gwaredodd hwy rhag y gelyn,

43. pan roes ei arwyddion yn yr Aiffta'i ryfeddodau ym meysydd Soan.

44. Fe drodd eu hafonydd yn waed,ac ni allent yfed o'u ffrydiau.

45. Anfonodd bryfetach arnynt a'r rheini'n eu hysu,a llyffaint a oedd yn eu difa.

46. Rhoes eu cnwd i'r lindys,a ffrwyth eu llafur i'r locust.

47. Dinistriodd eu gwinwydd â chenllysg,a'u sycamorwydd â glawogydd.

48. Rhoes eu gwartheg i'r haint,a'u diadell i'r plâu.

49. Anfonodd ei lid mawr arnynt,a hefyd ddicter, cynddaredd a gofid—cwmni o negeswyr gwae—

50. a rhoes ryddid i'w lidiowgrwydd.Nid arbedodd hwy rhag marwolaethond rhoi eu bywyd i'r haint.

51. Trawodd holl rai cyntafanedig yr Aifft,blaenffrwyth eu nerth ym mhebyll Ham.

52. Yna dygodd allan ei bobl fel defaid,a'u harwain fel praidd trwy'r anialwch;

Y Salmau 78