Y Salmau 78:34-41 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

34. Pan oedd yn eu taro, yr oeddent yn ei geisio;yr oeddent yn edifarhau ac yn chwilio am Dduw.

35. Yr oeddent yn cofio mai Duw oedd eu craig,ac mai'r Duw Goruchaf oedd eu gwaredydd.

36. Ond yr oeddent yn rhagrithio â'u genau,ac yn dweud celwydd â'u tafodau;

37. nid oedd eu calon yn glynu wrtho,ac nid oeddent yn ffyddlon i'w gyfamod.

38. Eto, bu ef yn drugarog, maddeuodd eu trosedd,ac ni ddistrywiodd hwy;dro ar ôl tro ataliodd ei ddig,a chadw ei lid rhag codi.

39. Cofiodd mai cnawd oeddent,gwynt sy'n mynd heibio heb ddychwelyd.

40. Mor aml y bu iddynt wrthryfela yn ei erbyn yn yr anialwch,a pheri gofid iddo yn y diffeithwch!

41. Dro ar ôl tro rhoesant brawf ar Dduw,a blino Sanct Israel.

Y Salmau 78