Y Salmau 78:29-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

29. Bwytasant hwythau a chawsant ddigon,oherwydd rhoes iddynt eu dymuniad.

30. Ond cyn iddynt ddiwallu eu chwant,a'r bwyd yn dal yn eu genau,

31. cododd dig Duw yn eu herbyn,a lladdodd y rhai mwyaf graenus ohonynt,a darostwng rhai dewisol Israel.

32. Er hyn, yr oeddent yn dal i bechu,ac nid oeddent yn credu yn ei ryfeddodau.

33. Felly gwnaeth i'w hoes ddarfod ar amrantiad,a'u blynyddoedd mewn dychryn.

34. Pan oedd yn eu taro, yr oeddent yn ei geisio;yr oeddent yn edifarhau ac yn chwilio am Dduw.

35. Yr oeddent yn cofio mai Duw oedd eu craig,ac mai'r Duw Goruchaf oedd eu gwaredydd.

36. Ond yr oeddent yn rhagrithio â'u genau,ac yn dweud celwydd â'u tafodau;

Y Salmau 78