Y Salmau 78:29-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

29. Bwytasant hwythau a chawsant ddigon,oherwydd rhoes iddynt eu dymuniad.

30. Ond cyn iddynt ddiwallu eu chwant,a'r bwyd yn dal yn eu genau,

31. cododd dig Duw yn eu herbyn,a lladdodd y rhai mwyaf graenus ohonynt,a darostwng rhai dewisol Israel.

32. Er hyn, yr oeddent yn dal i bechu,ac nid oeddent yn credu yn ei ryfeddodau.

33. Felly gwnaeth i'w hoes ddarfod ar amrantiad,a'u blynyddoedd mewn dychryn.

Y Salmau 78