Y Salmau 78:16-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. dygodd ffrydiau allan o graig,a pheri i ddŵr lifo fel afonydd.

17. Ond yr oeddent yn dal i bechu yn ei erbyn,ac i herio'r Goruchaf yn yr anialwch,

18. a rhoi prawf ar Dduw yn eu calonnautrwy ofyn bwyd yn ôl eu blys.

19. Bu iddynt lefaru yn erbyn Duw a dweud,“A all Duw arlwyo bwrdd yn yr anialwch?

20. Y mae'n wir iddo daro'r graig ac i ddŵr bistyllio,ac i afonydd lifo,ond a yw'n medru rhoi bara hefyd,ac yn medru paratoi cig i'w bobl?”

21. Felly, pan glywodd yr ARGLWYDD hyn, digiodd;cyneuwyd tân yn erbyn Jacob,a chododd llid yn erbyn Israel,

22. am nad oeddent yn credu yn Nuw,nac yn ymddiried yn ei waredigaeth.

Y Salmau 78