Y Salmau 77:8-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. A yw ei ffyddlondeb wedi darfod yn llwyr,a'i addewid wedi ei hatal am genedlaethau?

9. A yw Duw wedi anghofio trugarhau?A yw yn ei lid wedi cloi ei dosturi?”Sela

10. Yna dywedais, “Hyn yw fy ngofid:A yw deheulaw'r Goruchaf wedi pallu?”

11. “Galwaf i gof weithredoedd yr ARGLWYDD,a chofio am dy ryfeddodau gynt.

12. Meddyliaf am dy holl waith,a myfyriaf am dy weithredoedd.

13. O Dduw, sanctaidd yw dy ffordd;pa dduw sydd fawr fel ein Duw ni?

Y Salmau 77