Y Salmau 75:5-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. peidiwch â chodi'ch corn yn uchelna siarad yn haerllug wrth eich Craig.”

6. Nid o'r dwyrain na'r gorllewinnac o'r anialwch y bydd dyrchafu,

7. ond Duw fydd yn barnu—yn darostwng y naill ac yn codi'r llall.

8. Oherwydd y mae cwpan yn llaw'r ARGLWYDD,a'r gwin yn ewynnu ac wedi ei gymysgu;fe dywallt ddiod ohono,a bydd holl rai drygionus y ddaearyn ei yfed i'r gwaelod.

9. Ond clodforaf fi am byth,a chanaf fawl i Dduw Jacob,

10. am ei fod yn torri ymaith holl gyrn y drygionus,a chyrn y cyfiawn yn cael eu dyrchafu.

Y Salmau 75