Y Salmau 74:9-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Ni welwn arwyddion i ni, nid oes proffwyd mwyach;ac nid oes yn ein plith un a ŵyr am ba hyd.

10. Am ba hyd, O Dduw, y gwawdia'r gwrthwynebwr?A yw'r gelyn i ddifrïo dy enw am byth?

11. Pam yr wyt yn atal dy law,ac yn cuddio dy ddeheulaw yn dy fynwes?

12. Ond ti, O Dduw, yw fy mrenin erioed,yn gweithio iachawdwriaeth ar y ddaear.

13. Ti, â'th nerth, a rannodd y môr,torraist bennau'r dreigiau yn y dyfroedd.

14. Ti a ddrylliodd bennau Lefiathan,a'i roi'n fwyd i fwystfilod y môr.

15. Ti a agorodd ffynhonnau ac afonydd, a sychu'r dyfroedd di-baid.

16. Eiddot ti yw dydd a nos,ti a sefydlodd oleuni a haul.

17. Ti a osododd holl derfynau daear,ti a drefnodd haf a gaeaf.

18. Cofia, O ARGLWYDD, fel y mae'r gelyn yn gwawdio,a phobl ynfyd yn difrïo dy enw.

19. Paid â rhoi dy golomen i'r bwystfilod,nac anghofio bywyd dy drueiniaid am byth.

20. Rho sylw i'th gyfamod,oherwydd y mae cuddfannau'r ddaear yn llawnac yn gartref i drais.

21. Paid â gadael i'r gorthrymedig droi ymaith yn ddryslyd;bydded i'r tlawd a'r anghenus glodfori dy enw.

22. Cyfod, O Dduw, i ddadlau dy achos;cofia fel y mae'r ynfyd yn dy wawdio'n wastad.

23. Paid ag anghofio crechwen dy elynion,a chrochlefain cynyddol dy wrthwynebwyr.

Y Salmau 74