Y Salmau 72:8-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Bydded iddo lywodraethu o fôr i fôr,ac o'r Ewffrates hyd derfynau'r ddaear.

9. Bydded i'w wrthwynebwyr blygu o'i flaen,ac i'w elynion lyfu'r llwch.

10. Bydded i frenhinoedd Tarsis a'r ynysoeddddod ag anrhegion iddo,ac i frenhinoedd Sheba a Sebagyflwyno eu teyrnged.

11. Bydded i'r holl frenhinoedd ymostwng o'i flaen,ac i'r holl genhedloedd ei wasanaethu.

12. Oherwydd y mae'n gwaredu'r anghenus pan lefa,a'r tlawd pan yw heb gynorthwywr.

13. Y mae'n tosturio wrth y gwan a'r anghenus,ac yn gwaredu bywyd y tlodion.

Y Salmau 72