Y Salmau 71:4-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. O fy Nuw, gwared fi o law'r drygionus,o afael yr anghyfiawn a'r creulon.

5. Oherwydd ti, Arglwydd, yw fy ngobaith,fy ymddiriedaeth o'm hieuenctid, O ARGLWYDD.

6. Arnat ti y bûm yn pwyso o'm genedigaeth;ti a'm tynnodd allan o groth fy mam.Amdanat ti y bydd fy mawl yn wastad.

7. Bûm fel pe'n rhybudd i lawer;ond ti yw fy noddfa gadarn.

8. Y mae fy ngenau'n llawn o'th foliantac o'th ogoniant bob amser.

9. Paid â'm bwrw ymaith yn amser henaint;paid â'm gadael pan fydd fy nerth yn pallu.

10. Oherwydd y mae fy ngelynion yn siarad amdanaf,a'r rhai sy'n gwylio am fy einioes yn trafod gyda'i gilydd,

11. ac yn dweud, “Y mae Duw wedi ei adael;ewch ar ei ôl a'i ddal, oherwydd nid oes gwaredydd.”

12. O Dduw, paid â phellhau oddi wrthyf;O fy Nuw, brysia i'm cynorthwyo.

13. Doed cywilydd a gwarth ar fy ngwrthwynebwyr,a gwaradwydd yn orchudd dros y rhai sy'n ceisio fy nrygu.

Y Salmau 71