Y Salmau 71:15-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Bydd fy ngenau'n mynegi dy gyfiawndera'th weithredoedd achubol trwy'r amser,oherwydd ni wn eu nifer.

16. Dechreuaf gyda'r gweithredoedd grymus, O Arglwydd DDUW;soniaf am dy gyfiawnder di yn unig.

17. O Dduw, dysgaist fi o'm hieuenctid,ac yr wyf yn dal i gyhoeddi dy ryfeddodau;

18. a hyd yn oed pan wyf yn hen a phenwyn,O Dduw, paid â'm gadael,nes imi fynegi dy rymi'r cenedlaethau sy'n codi.

19. Y mae dy gryfder a'th gyfiawnder, O Dduw,yn cyrraedd i'r uchelder,oherwydd iti wneud pethau mawr.O Dduw, pwy sydd fel tydi?

20. Ti, a wnaeth imi weld cyfyngderau mawr a chwerw,fydd yn fy adfywio drachefn;ac o ddyfnderau'r ddaearfe'm dygi i fyny unwaith eto.

21. Byddi'n ychwanegu at fy anrhydedd,ac yn troi i'm cysuro.

Y Salmau 71