Y Salmau 7:9-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Bydded diwedd ar ddrygioni'r drygionus,ond cadarnha di y cyfiawn,ti sy'n profi meddyliau a chalonnau,ti Dduw cyfiawn.

10. Duw yw fy nharian,ef sy'n gwaredu'r cywir o galon.

11. Duw sydd farnwr cyfiawn,a Duw sy'n dedfrydu bob amser.

12. Yn wir, y mae'r drygionus yn hogi ei gleddyf eto,yn plygu ei fwa ac yn ei wneud yn barod;

13. y mae'n darparu ei arfau marwol,ac yn gwneud ei saethau'n danllyd.

Y Salmau 7