Y Salmau 7:14-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Y mae'n feichiog o ddrygioni,yn cenhedlu niwed ac yn geni twyll.

15. Y mae'n cloddio pwll ac yn ei geibio,ac yn syrthio i'r twll a wnaeth.

16. Fe ddychwel ei niwed arno ef ei hun,ac ar ei ben ef y disgyn ei drais.

17. Diolchaf i'r ARGLWYDD am ei gyfiawnder,a chanaf fawl i enw'r ARGLWYDD Goruchaf.

Y Salmau 7