24. Tywallt dy ddicter arnynt,a doed dy lid mawr ar eu gwarthaf.
25. Bydded eu gwersyll yn anghyfannedd,heb neb yn byw yn eu pebyll,
26. oherwydd erlidiant yr un a drewaist ti,a lluosogant friwiau'r rhai a archollaist.
27. Rho iddynt gosb ar ben cosb;na chyfiawnhaer hwy gennyt ti.
28. Dileer hwy o lyfr y rhai byw,ac na restrer hwy gyda'r cyfiawn.
29. Yr wyf fi mewn gofid a phoen;trwy dy waredigaeth, O Dduw, cod fi i fyny.
30. Moliannaf enw Duw ar gân,mawrygaf ef â diolchgarwch.
31. Bydd hyn yn well gan yr ARGLWYDD nag ych,neu fustach ifanc â chyrn a charnau.
32. Bydded i'r darostyngedig weld hyn a llawenhau;chwi sy'n ceisio Duw, bydded i'ch calonnau adfywio;
33. oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn gwrando'r anghenus,ac nid yw'n diystyru ei eiddo sy'n gaethion.
34. Bydded i'r nefoedd a'r ddaear ei foliannu,y môr hefyd a phopeth byw sydd ynddo.
35. Oherwydd bydd Duw yn gwaredu Seion,ac yn ailadeiladu dinasoedd Jwda;byddant yn byw yno ac yn ei meddiannu,
36. bydd plant ei weision yn ei hetifeddu,a'r rhai sy'n caru ei enw'n byw yno.