Y Salmau 69:16-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Ateb fi, ARGLWYDD, oherwydd da yw dy gariad;yn dy drugaredd mawr, tro ataf.

17. Paid â chuddio dy wyneb oddi wrth dy was;y mae'n gyfyng arnaf, brysia i'm hateb.

18. Tyrd yn nes ataf i'm gwaredu;rhyddha fi o achos fy ngelynion.

19. Fe wyddost ti fy ngwaradwydd,fy ngwarth a'm cywilydd;yr wyt yn gyfarwydd â'm holl elynion.

20. Y mae gwarth wedi torri fy nghalon,ac yr wyf mewn anobaith;disgwyliais am dosturi, ond heb ei gael,ac am rai i'm cysuro, ond nis cefais.

21. Rhoesant wenwyn yn fy mwyd,a gwneud imi yfed finegr at fy syched.

Y Salmau 69