Y Salmau 68:25-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. y cantorion ar y blaen a'r offerynwyr yn dilyn,a rhyngddynt forynion yn canu tympanau.

26. Yn y gynulleidfa y maent yn bendithio Duw,a'r ARGLWYDD yng nghynulliad Israel.

27. Yno y mae Benjamin fychan yn eu harwain,a thyrfa tywysogion Jwda,tywysogion Sabulon a thywysogion Nafftali.

28. O Dduw, dangos dy rym,y grym, O Dduw, y buost yn ei weithredu drosom.

29. O achos dy deml yn Jerwsalemdaw brenhinoedd ag anrhegion i ti.

30. Cerydda anifeiliaid gwyllt y corsydd,y gyr o deirw gyda'u lloi o bobl;sathra i lawr y rhai sy'n dyheu am arian,gwasgara'r bobl sy'n ymhyfrydu mewn rhyfel.

Y Salmau 68