Y Salmau 68:10-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. cafodd dy braidd le i fyw ynddi,ac yn dy ddaioni darperaist i'r anghenus, O Dduw.

11. Y mae'r Arglwydd yn datgan y gair,ac y mae llu mawr yn cyhoeddi'r newydd da

12. fod brenhinoedd y byddinoedd yn ffoi ar frys;y mae'r merched gartref yn rhannu ysbail—

13. er eu bod wedi aros ymysg y corlannau—y mae adenydd colomen wedi eu gorchuddio ag arian,a'i hesgyll yn aur melyn.

14. Pan wasgarodd yr Hollalluog frenhinoedd yno,yr oedd yn eira ar Fynydd Salmon.

Y Salmau 68