Y Salmau 65:10-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. dyfrhau ei rhychau, gwastatáu ei chefnau,ei mwydo â chawodydd a bendithio'i chnwd.

11. Yr wyt yn coroni'r flwyddyn â'th ddaioni,ac y mae dy lwybrau'n diferu gan fraster.

12. Y mae porfeydd yr anialdir yn diferu,a'r bryniau wedi eu gwregysu â llawenydd;

13. y mae'r dolydd wedi eu gwisgo â defaid,a'r dyffrynnoedd wedi eu gorchuddio ag ŷd.Y maent yn bloeddio ac yn gorfoleddu.

Y Salmau 65