Y Salmau 64:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Clyw fy llais, O Dduw, wrth imi gwyno;achub fy mywyd rhag arswyd y gelyn,

2. cuddia fi rhag cynllwyn rhai drygionusa rhag dichell gwneuthurwyr drygioni—

3. rhai sy'n hogi eu tafod fel cleddyf,ac yn anelu eu geiriau chwerw fel saethau,

4. i saethu'r dieuog o'r dirgel,i saethu'n sydyn a di-ofn.

5. Y maent yn glynu wrth eu bwriad drwg,ac yn sôn am osod maglau o'r golwg,a dweud, “Pwy all ein gweld?”

6. Y maent yn dyfeisio drygioni,ac yn cuddio'u dyfeisiadau;y mae'r galon a'r meddwl dynol yn ddwfn!

Y Salmau 64