Y Salmau 60:3-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Gwnaethost i'th bobl yfed peth chwerw,a rhoist inni win a'n gwna'n simsan.

4. Rhoist faner i'r rhai sy'n dy ofni,iddynt ffoi ati rhag y bwa.Sela

5. Er mwyn gwaredu dy anwyliaid,achub â'th ddeheulaw, ac ateb ni.

6. Llefarodd Duw yn ei gysegr,“Yr wyf yn gorfoleddu wrth rannu Sichem

7. a mesur dyffryn Succoth yn rhannau;eiddof fi yw Gilead a Manasse,Effraim yw fy helm,a Jwda yw fy nheyrnwialen;

8. Moab yw fy nysgl ymolchi,ac at Edom y taflaf fy esgid;ac yn erbyn Philistia y gorfoleddaf.”

9. Pwy a'm dwg i'r ddinas gaerog?Pwy a'm harwain i Edom?

Y Salmau 60