Y Salmau 6:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Yr wyf wedi diffygio gan fy nghwynfan;bob nos y mae fy ngwely'n foddfa,trochaf fy ngobennydd â'm dagrau.

7. Pylodd fy llygaid gan ofid,a phallu oherwydd fy holl elynion.

8. Ewch ymaith oddi wrthyf, holl wneuthurwyr drygioni,oherwydd clywodd yr ARGLWYDD fi'n wylo.

9. Gwrandawodd yr ARGLWYDD ar fy neisyfiad,ac y mae'r ARGLWYDD yn derbyn fy ngweddi.

10. Bydded cywilydd a dryswch i'm holl elynion;trônt yn ôl a'u cywilyddio'n sydyn.

Y Salmau 6