Y Salmau 59:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Dychwelant gyda'r nos, yn cyfarth fel cŵnac yn prowla trwy'r ddinas.

7. Wele, y mae eu genau'n glafoerio,y mae cleddyf rhwng eu gweflau.“Pwy,” meddant, “sy'n clywed?”

8. Ond yr wyt ti, ARGLWYDD, yn chwerthin am eu pennauac yn gwawdio'r holl genhedloedd.

9. O fy Nerth, disgwyliaf wrthyt,oherwydd Duw yw f'amddiffynfa.

10. Bydd fy Nuw trugarog yn sefyll o'm plaid;O Dduw, rho imi orfoleddu dros fy ngelynion.

Y Salmau 59