Y Salmau 58:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. a heb wrando ar sain y swynwrsy'n taenu ei hudoliaeth ryfedd.

6. O Dduw, dryllia'r dannedd yn eu genau,diwreiddia gilddannedd y llewod, O ARGLWYDD.

7. Bydded iddynt ddiflannu fel dŵr a mynd ymaith,a chrino fel gwellt a sethrir;

8. byddant fel erthyl sy'n diflannu,ac fel marw-anedig na wêl olau dydd.

9. Cyn iddynt wybod bydd yn eu diwreiddio;yn ei ddig bydd yn eu sgubo ymaith fel chwyn.

Y Salmau 58