9. O Dduw, cymysga a rhanna'u hiaith,oherwydd gwelais drais a chynnen yn y ddinas;
10. ddydd a nos y maent yn ei hamgylchu ar y muriau,ac y mae drygioni a thrybini o'i mewn,
11. dinistr yn ei chanol;ac nid yw twyll a gorthrwmyn ymadael o'i marchnadfa.
12. “Ond nid gelyn a'm gwawdiodd—gallwn oddef hynny;nid un o'm caseion a'm bychanodd—gallwn guddio rhag hwnnw;
13. ond ti, fy nghydradd,fy nghydymaith, fy nghydnabod—
14. buom mewn cyfeillach felys â'n gilyddwrth gerdded gyda'r dyrfa yn nhŷ Dduw.
15. “Doed marwolaeth arnynt;bydded iddynt fynd yn fyw i Sheol,am fod drygioni'n cartrefu yn eu mysg.
16. Ond gwaeddaf fi ar Dduw,a bydd yr ARGLWYDD yn fy achub.
17. Hwyr a bore a chanol dyddfe gwynaf a griddfan,a chlyw ef fy llais.
18. Gwareda fy mywyd yn ddiogelo'r rhyfel yr wyf ynddo,oherwydd y mae llawer i'm herbyn.
19. Gwrendy Duw a'u darostwng—y mae ef wedi ei orseddu erioed—Sela“am na fynnant newid nac ofni Duw.
20. “Estynnodd fy nghydymaith ei law yn erbyn ei gyfeillion,torrodd ei gyfamod.
21. Yr oedd ei leferydd yn esmwythach na menyn,ond yr oedd rhyfel yn ei galon;yr oedd ei eiriau'n llyfnach nag olew,ond yr oeddent yn gleddyfau noeth.