Y Salmau 55:7-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Yna byddwn yn crwydro ymhellac yn aros yn yr anialwch;Sela

8. “brysiwn i gael cysgodrhag y gwynt stormus a'r dymestl.”

9. O Dduw, cymysga a rhanna'u hiaith,oherwydd gwelais drais a chynnen yn y ddinas;

10. ddydd a nos y maent yn ei hamgylchu ar y muriau,ac y mae drygioni a thrybini o'i mewn,

11. dinistr yn ei chanol;ac nid yw twyll a gorthrwmyn ymadael o'i marchnadfa.

12. “Ond nid gelyn a'm gwawdiodd—gallwn oddef hynny;nid un o'm caseion a'm bychanodd—gallwn guddio rhag hwnnw;

13. ond ti, fy nghydradd,fy nghydymaith, fy nghydnabod—

14. buom mewn cyfeillach felys â'n gilyddwrth gerdded gyda'r dyrfa yn nhŷ Dduw.

Y Salmau 55