Y Salmau 55:12-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. “Ond nid gelyn a'm gwawdiodd—gallwn oddef hynny;nid un o'm caseion a'm bychanodd—gallwn guddio rhag hwnnw;

13. ond ti, fy nghydradd,fy nghydymaith, fy nghydnabod—

14. buom mewn cyfeillach felys â'n gilyddwrth gerdded gyda'r dyrfa yn nhŷ Dduw.

15. “Doed marwolaeth arnynt;bydded iddynt fynd yn fyw i Sheol,am fod drygioni'n cartrefu yn eu mysg.

16. Ond gwaeddaf fi ar Dduw,a bydd yr ARGLWYDD yn fy achub.

Y Salmau 55