Y Salmau 53:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dywed yr ynfyd yn ei galon,“Nid oes Duw.”Gwnânt weithredoedd llygredig a ffiaidd;nid oes un a wna ddaioni.

2. Edrychodd yr ARGLWYDD o'r nefoeddar ddynolryw,i weld a oes rhywun yn gwneud yn ddoethac yn ceisio Duw.

3. Ond y mae pawb ar gyfeiliorn,ac mor llygredig â'i gilydd;nid oes un a wna ddaioni,nac oes, dim un.

4. Oni ddarostyngir y gwneuthurwyr drygionisy'n llyncu fy mhobl fel llyncu bwyd,ac sydd heb alw ar yr ARGLWYDD?

Y Salmau 53