Y Salmau 51:7-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Pura fi ag isop fel y byddaf lân;golch fi fel y byddaf wynnach nag eira.

8. Pâr imi glywed gorfoledd a llawenydd,fel y bo i'r esgyrn a ddrylliaist lawenhau.

9. Cuddia dy wyneb oddi wrth fy mhechodau,a dilea fy holl euogrwydd.

10. Crea galon lân ynof, O Dduw,rho ysbryd newydd cadarn ynof.

11. Paid â'm bwrw ymaith oddi wrthyt,na chymryd dy ysbryd sanctaidd oddi arnaf.

12. Dyro imi eto orfoledd dy iachawdwriaeth,a chynysgaedda fi ag ysbryd ufudd.

13. Dysgaf dy ffyrdd i droseddwyr,fel y dychwelo'r pechaduriaid atat.

14. Gwared fi rhag gwaed, O Dduw,Duw fy iachawdwriaeth,ac fe gân fy nhafod am dy gyfiawnder.

15. Arglwydd, agor fy ngwefusau,a bydd fy ngenau yn mynegi dy foliant.

16. Oherwydd nid wyt yn ymhyfrydu mewn aberth;pe dygwn boethoffrymau, ni fyddit fodlon.

Y Salmau 51