Y Salmau 51:15-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Arglwydd, agor fy ngwefusau,a bydd fy ngenau yn mynegi dy foliant.

16. Oherwydd nid wyt yn ymhyfrydu mewn aberth;pe dygwn boethoffrymau, ni fyddit fodlon.

17. Aberthau Duw yw ysbryd drylliedig;calon ddrylliedig a churiedigni ddirmygi, O Dduw.

18. Gwna ddaioni i Seion yn dy ras;adeilada furiau Jerwsalem.

19. Yna fe ymhyfrydi mewn aberthau cywir—poethoffrwm ac aberth llosg—yna fe aberthir bustych ar dy allor.

Y Salmau 51