Y Salmau 50:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Bydd y nefoedd yn cyhoeddi ei gyfiawnder,oherwydd Duw ei hun sydd farnwr.Sela

7. “Gwrandewch, fy mhobl, a llefaraf;dygaf dystiolaeth yn dy erbyn, O Israel;myfi yw Duw, dy Dduw di.

8. Ni cheryddaf di am dy aberthau,oherwydd y mae dy boethoffrymau'n wastad ger fy mron.

9. Ni chymeraf fustach o'th dŷ,na bychod geifr o'th gorlannau;

10. oherwydd eiddof fi holl fwystfilod y goedwig,a'r gwartheg ar fil o fryniau.

Y Salmau 50