Y Salmau 5:10-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Dwg gosb arnynt, O Dduw,bydded iddynt syrthio trwy eu cynllwynion;bwrw hwy ymaith yn eu holl bechodauam iddynt wrthryfela yn dy erbyn.

11. Ond bydded i bawb sy'n llochesu ynot ti lawenhau,a chanu mewn llawenydd yn wastad;bydd yn amddiffyn dros y rhai sy'n caru dy enw,fel y bydd iddynt orfoleddu ynot ti.

12. Oherwydd yr wyt ti, ARGLWYDD, yn bendithio'r cyfiawn,ac y mae dy ffafr yn ei amddiffyn fel tarian.

Y Salmau 5