Y Salmau 49:8-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. oherwydd rhy uchel yw pris ei fywyd,ac ni all byth ei gyrraedd—

9. iddo gael byw am bytha pheidio â gweld Pwll Distryw.

10. Ond gwêl fod y doethion yn marw,fod yr ynfyd a'r dwl yn trengi,ac yn gadael eu cyfoeth i eraill.

11. Eu bedd yw eu cartref bythol,eu trigfan dros y cenedlaethau,er iddynt gael tiroedd i'w henwau.

12. Ni all neb aros mewn rhwysg;y mae fel yr anifeiliaid sy'n darfod.

13. Dyma yw tynged yr ynfyd,a diwedd y rhai sy'n cymeradwyo eu geiriau.Sela

Y Salmau 49