Y Salmau 49:4-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Gogwyddaf fy nghlust at ddihareb,a datgelaf fy nychymyg â'r delyn.

5. Pam yr ofnaf yn nyddiau adfyd,pan yw drygioni fy nisodlwyr o'm cwmpas,

6. rhai sy'n ymddiried yn eu goludac yn ymffrostio yn nigonedd eu cyfoeth?

7. Yn wir, ni all neb ei waredu ei hunna thalu iawn i Dduw—

8. oherwydd rhy uchel yw pris ei fywyd,ac ni all byth ei gyrraedd—

9. iddo gael byw am bytha pheidio â gweld Pwll Distryw.

10. Ond gwêl fod y doethion yn marw,fod yr ynfyd a'r dwl yn trengi,ac yn gadael eu cyfoeth i eraill.

Y Salmau 49