Y Salmau 49:16-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Paid ag ofni pan ddaw rhywun yn gyfoethoga phan gynydda golud ei dŷ,

17. oherwydd ni chymer ddim pan fo'n marw,ac nid â ei gyfoeth i lawr i'w ganlyn.

18. Er iddo yn ei fywyd ei ystyried ei hun yn ddedwydd,a bod pobl yn ei ganmol am iddo wneud yn dda,

19. fe â at genhedlaeth ei hynafiaid,ac ni wêl oleuni byth mwy.

20. Ni all neb aros mewn rhwysg;y mae fel yr anifeiliaid sy'n darfod.

Y Salmau 49