Y Salmau 49:14-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Fel defaid y tynghedir hwy i Sheol;angau fydd yn eu bugeilio;disgynnant yn syth i'r bedd,a bydd eu ffurf yn darfod;Sheol fydd eu cartref.

15. Ond bydd Duw'n gwaredu fy mywydac yn fy nghymryd o afael Sheol.Sela

16. Paid ag ofni pan ddaw rhywun yn gyfoethoga phan gynydda golud ei dŷ,

17. oherwydd ni chymer ddim pan fo'n marw,ac nid â ei gyfoeth i lawr i'w ganlyn.

18. Er iddo yn ei fywyd ei ystyried ei hun yn ddedwydd,a bod pobl yn ei ganmol am iddo wneud yn dda,

19. fe â at genhedlaeth ei hynafiaid,ac ni wêl oleuni byth mwy.

Y Salmau 49