Y Salmau 47:6-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Canwch fawl i Dduw, canwch fawl;canwch fawl i'n brenin, canwch fawl.

7. Y mae Duw yn frenin ar yr holl ddaear;canwch fawl yn gelfydd.

8. Y mae Duw yn frenin ar y cenhedloedd,y mae'n eistedd ar ei orsedd sanctaidd.

9. Y mae tywysogion y bobl wedi ymgynnullgyda phobl Duw Abraham;oherwydd eiddo Duw yw mawrion y ddaear—fe'i dyrchafwyd yn uchel iawn.

Y Salmau 47