Y Salmau 46:3-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. er i'r dyfroedd ruo a therfysguac i'r mynyddoedd ysgwyd gan eu hymchwydd.Sela

4. Y mae afon a'i ffrydiau'n llawenhau dinas Duw,preswylfa sanctaidd y Goruchaf.

5. Y mae Duw yn ei chanol, nid ysgogir hi;cynorthwya Duw hi ar doriad dydd.

6. Y mae'r cenhedloedd yn terfysgu a'r teyrnasoedd yn gwegian;pan gwyd ef ei lais, todda'r ddaear.

7. Y mae ARGLWYDD y Lluoedd gyda ni,Duw Jacob yn gaer i ni.Sela

8. Dewch i weld gweithredoedd yr ARGLWYDD,fel y dygodd ddifrod ar y ddaear;

Y Salmau 46