Y Salmau 44:6-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Oherwydd nid yn fy mwa yr ymddiriedaf,ac nid fy nghleddyf a'm gwareda.

7. Ond ti a'n gwaredodd rhag ein gelyniona chywilyddio'r rhai sy'n ein casáu.

8. Yn Nuw yr ydym erioed wedi ymffrostio,a chlodforwn dy enw am byth.Sela

9. Ond yr wyt wedi'n gwrthod a'n darostwng,ac nid ei allan mwyach gyda'n byddinoedd.

10. Gwnei inni gilio o flaen y gelyn,a chymerodd y rhai sy'n ein casáu yr ysbail.

11. Gwnaethost ni fel defaid i'w lladd,a'n gwasgaru ymysg y cenhedloedd.

12. Gwerthaist dy bobl am y nesaf peth i ddim,ac ni chefaist elw o'r gwerthiant.

13. Gwnaethost ni'n warth i'n cymdogion,yn destun gwawd a dirmyg i'r rhai o'n hamgylch.

14. Gwnaethost ni'n ddihareb ymysg y cenhedloedd,ac y mae'r bobloedd yn ysgwyd eu pennau o'n plegid.

Y Salmau 44