Y Salmau 44:4-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Ti yw fy Mrenin a'm Duw,ti sy'n rhoi buddugoliaeth i Jacob.

5. Trwot ti y darostyngwn ein gelynion,trwy dy enw y sathrwn ein gwrthwynebwyr.

6. Oherwydd nid yn fy mwa yr ymddiriedaf,ac nid fy nghleddyf a'm gwareda.

7. Ond ti a'n gwaredodd rhag ein gelyniona chywilyddio'r rhai sy'n ein casáu.

8. Yn Nuw yr ydym erioed wedi ymffrostio,a chlodforwn dy enw am byth.Sela

9. Ond yr wyt wedi'n gwrthod a'n darostwng,ac nid ei allan mwyach gyda'n byddinoedd.

10. Gwnei inni gilio o flaen y gelyn,a chymerodd y rhai sy'n ein casáu yr ysbail.

11. Gwnaethost ni fel defaid i'w lladd,a'n gwasgaru ymysg y cenhedloedd.

12. Gwerthaist dy bobl am y nesaf peth i ddim,ac ni chefaist elw o'r gwerthiant.

13. Gwnaethost ni'n warth i'n cymdogion,yn destun gwawd a dirmyg i'r rhai o'n hamgylch.

14. Gwnaethost ni'n ddihareb ymysg y cenhedloedd,ac y mae'r bobloedd yn ysgwyd eu pennau o'n plegid.

15. Y mae fy ngwarth yn fy wynebu beunydd,ac yr wyf wedi fy ngorchuddio â chywilydd

16. o achos llais y rhai sy'n fy ngwawdio a'm difrïo,ac oherwydd y gelyn a'r dialydd.

17. Daeth hyn i gyd arnom, a ninnau heb dy anghofiona bod yn anffyddlon i'th gyfamod.

18. Ni throdd ein calon oddi wrthyt,ac ni chamodd ein traed o'th lwybrau,

19. i beri iti ein hysigo yn nhrigfa'r siacala'n gorchuddio â thywyllwch dudew.

20. Pe baem wedi anghofio enw ein Duwac estyn ein dwylo at dduw estron,

Y Salmau 44