Y Salmau 44:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. O Dduw, clywsom â'n clustiau,dywedodd ein hynafiaid wrthymam y gwaith a wnaethost yn eu dyddiau hwy,yn y dyddiau gynt â'th law dy hun.

2. Gyrraist genhedloedd allan,ond eu plannu hwy;difethaist bobloedd,ond eu llwyddo hwy;

3. oherwydd nid â'u cleddyf y cawsant y tir,ac nid â'u braich y cawsant fuddugoliaeth,ond trwy dy ddeheulaw a'th fraich di,a llewyrch dy wyneb, am dy fod yn eu hoffi.

4. Ti yw fy Mrenin a'm Duw,ti sy'n rhoi buddugoliaeth i Jacob.

5. Trwot ti y darostyngwn ein gelynion,trwy dy enw y sathrwn ein gwrthwynebwyr.

6. Oherwydd nid yn fy mwa yr ymddiriedaf,ac nid fy nghleddyf a'm gwareda.

7. Ond ti a'n gwaredodd rhag ein gelyniona chywilyddio'r rhai sy'n ein casáu.

Y Salmau 44