Y Salmau 41:9-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Y mae hyd yn oed fy nghyfaill agos, y bûm yn ymddiried ynddo,ac a fu'n bwyta wrth fy mwrdd,yn codi ei sawdl yn f'erbyn.

10. O ARGLWYDD, bydd drugarog wrthyf ac adfer fi,imi gael talu'n ôl iddynt.

11. Wrth hyn y gwn dy fod yn fy hoffi:na fydd fy ngelyn yn cael gorfoledd o'm plegid.

12. Ond byddi di'n fy nghynnal yn fy nghywirdeb,ac yn fy nghadw yn dy bresenoldeb byth.

13. Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD, Duw Israel,o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb.Amen ac Amen.

Y Salmau 41