Y Salmau 41:8-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. ac yn dweud, “Y mae rhywbeth marwol wedi cydio ynddo;y mae'n orweiddiog, ac ni chyfyd eto.”

9. Y mae hyd yn oed fy nghyfaill agos, y bûm yn ymddiried ynddo,ac a fu'n bwyta wrth fy mwrdd,yn codi ei sawdl yn f'erbyn.

10. O ARGLWYDD, bydd drugarog wrthyf ac adfer fi,imi gael talu'n ôl iddynt.

11. Wrth hyn y gwn dy fod yn fy hoffi:na fydd fy ngelyn yn cael gorfoledd o'm plegid.

12. Ond byddi di'n fy nghynnal yn fy nghywirdeb,ac yn fy nghadw yn dy bresenoldeb byth.

Y Salmau 41