Y Salmau 41:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Fe ddywed fy ngelynion yn faleisus amdanaf,“Pa bryd y bydd farw ac y derfydd ei enw?”

6. Pan ddaw un i'm gweld, y mae'n siarad yn rhagrithiol,ond yn ei galon yn casglu newydd drwg amdanaf,ac yn mynd allan i'w daenu ar led.

7. Y mae'r holl rai sy'n fy nghasáu yn sisial â'i gilydd,yn meddwl y gwaethaf amdanaf,

8. ac yn dweud, “Y mae rhywbeth marwol wedi cydio ynddo;y mae'n orweiddiog, ac ni chyfyd eto.”

9. Y mae hyd yn oed fy nghyfaill agos, y bûm yn ymddiried ynddo,ac a fu'n bwyta wrth fy mwrdd,yn codi ei sawdl yn f'erbyn.

Y Salmau 41