Y Salmau 39:7-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. “Ac yn awr, Arglwydd, am beth y disgwyliaf?Y mae fy ngobaith ynot ti.

8. Gwared fi o'm holl droseddau,paid â'm gwneud yn wawd i'r ynfyd.

9. Bûm yn fud, ac nid agoraf fy ngheg,oherwydd ti sydd wedi gwneud hyn.

10. Tro ymaith dy bla oddi wrthyf;yr wyf yn darfod gan drawiad dy law.

11. Pan gosbi rywun â cherydd am ddrygioni,yr wyt yn dinistrio'i ogoniant fel gwyfyn;yn wir, chwa o wynt yw pawb.Sela

Y Salmau 39