Y Salmau 39:2-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Bûm yn fud a distaw,cedwais yn dawel, ond i ddim diben;gwaethygodd fy mhoen,

3. llosgodd fy nghalon o'm mewn;wrth imi fyfyrio, cyneuodd tâna thorrais allan i ddweud,

4. “ARGLWYDD, pâr imi wybod fy niwedd,a beth yw nifer fy nyddiau;dangos imi mor feidrol ydwyf.

5. Wele, yr wyt wedi gwneud fy nyddiau fel dyrnfedd,ac y mae fy oes fel dim yn dy olwg;yn wir, chwa o wynt yw pob un byw,Sela

6. “ac y mae'n mynd a dod fel cysgod;yn wir, ofer yw'r holl gyfoeth a bentyrra,ac ni ŵyr pwy fydd yn ei gasglu.

7. “Ac yn awr, Arglwydd, am beth y disgwyliaf?Y mae fy ngobaith ynot ti.

Y Salmau 39