Y Salmau 38:13-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Ond yr wyf fi fel un byddar, heb fod yn clywed,ac fel mudan, heb fod yn agor ei enau.

14. Bûm fel un heb fod yn clywed,a heb ddadl o'i enau.

15. Ond amdanat ti, O ARGLWYDD, y disgwyliais;ti sydd i ateb, O Arglwydd, fy Nuw.

16. Oherwydd dywedais, “Na fydded llawenydd o'm plegidi'r rhai sy'n ymffrostio pan lithra fy nhroed.”

17. Yn wir, yr wyf ar fedr syrthio,ac y mae fy mhoen gyda mi bob amser.

Y Salmau 38