Y Salmau 35:4-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Doed cywilydd a gwarthar y rhai sy'n ceisio fy mywyd;bydded i'r rhai sy'n darparu drwg i midroi yn eu holau mewn arswyd.

5. Byddant fel us o flaen gwynt,ac angel yr ARGLWYDD ar eu holau.

6. Bydded eu ffordd yn dywyll a llithrig,ac angel yr ARGLWYDD yn eu hymlid.

7. Oherwydd heb achos y maent wedi gosod rhwyd i mi,ac wedi cloddio pwll ar fy nghyfer.

8. Doed distryw yn ddiarwybod arnynt,dalier hwy yn y rhwyd a osodwyd ganddynt,a bydded iddynt hwy eu hunain syrthio i'w distryw.

Y Salmau 35