Y Salmau 35:25-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Na fydded iddynt ddweud ynddynt eu hunain,“Aha, cawsom ein dymuniad!”Na fydded iddynt ddweud, “Yr ydym wedi ei lyncu.”

26. Doed cywilydd, a gwaradwydd hefyd,ar y rhai sy'n llawenhau yn fy adfyd;bydded gwarth ac amarch yn gorchuddioy rhai sy'n ymddyrchafu yn f'erbyn.

27. Bydded i'r rhai sy'n dymuno gweld fy nghyfiawnhauorfoleddu a llawenhau;bydded iddynt ddweud yn wastad,“Mawr yw yr ARGLWYDD sy'n dymuno llwyddiant ei was.”

28. Yna, bydd fy nhafod yn cyhoeddi dy gyfiawndera'th foliant ar hyd y dydd.

Y Salmau 35