Y Salmau 35:23-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. Ymysgwyd a deffro i wneud barn â mi,i roi dedfryd ar fy achos, fy Nuw a'm Harglwydd.

24. Barna fi yn ôl dy gyfiawnder, O ARGLWYDD, fy Nuw,ac na fydded iddynt lawenhau o'm hachos.

25. Na fydded iddynt ddweud ynddynt eu hunain,“Aha, cawsom ein dymuniad!”Na fydded iddynt ddweud, “Yr ydym wedi ei lyncu.”

26. Doed cywilydd, a gwaradwydd hefyd,ar y rhai sy'n llawenhau yn fy adfyd;bydded gwarth ac amarch yn gorchuddioy rhai sy'n ymddyrchafu yn f'erbyn.

27. Bydded i'r rhai sy'n dymuno gweld fy nghyfiawnhauorfoleddu a llawenhau;bydded iddynt ddweud yn wastad,“Mawr yw yr ARGLWYDD sy'n dymuno llwyddiant ei was.”

28. Yna, bydd fy nhafod yn cyhoeddi dy gyfiawndera'th foliant ar hyd y dydd.

Y Salmau 35