Y Salmau 35:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Ymryson, O ARGLWYDD, yn erbyn y rhai sy'n ymryson â mi,ymladd yn erbyn y rhai sy'n ymladd â mi.

2. Cydia mewn tarian a bwcled,a chyfod i'm cynorthwyo.

3. Tyn allan y waywffon a'r bicellyn erbyn y rhai sy'n fy erlid;dywed wrthyf, “Myfi yw dy waredigaeth.”

4. Doed cywilydd a gwarthar y rhai sy'n ceisio fy mywyd;bydded i'r rhai sy'n darparu drwg i midroi yn eu holau mewn arswyd.

Y Salmau 35